The Real Folk Panel

Mae gofyn cwestiynau yn helpu pawb i ddatblygu eu gwybodaeth, gan arwain at well dealltwriaeth o ran cynhwysiant. Dyna pam crëwyd The Real Folk Panel, ein casgliad o ymgynghorwyr cyfathrebu o gefndiroedd heb gynrychiolaeth ddigonol, sy’n gallu darparu tawelwch meddwl i chi a diwallu anghenion eich brand er mwyn gwneud cynnydd.

Mae ein hymgynghorwyr yn gweithio'n uniongyrchol gyda chi i annog cynhwysiant mewn cyfathrebu, gan ganolbwyntio ar y pedwar maes hyn:

The image shows four people discussing something.

MEWNWELEDIADAU EFFEITHIOL

Mae ein tîm yn meddu ar ystod eang o brofiadau bywyd, setiau sgiliau ac arbenigedd proffesiynol, ac yn cynnwys unigolion sy’n dod o wahanol groestoriadau o LGBTQIA+, grwpiau ethnig, 50+ oed, anabledd, crefydd, rhywedd, cefndiroedd economaidd-gymdeithasol a mwy. Bydd gweithio gyda The Real Folk Panel yn eich galluogi chi i fanteisio ar yr ystod hon o arbenigeddau a phrofiadau bywyd, gan ddarparu mewnwelediadau amhrisiadwy i chi a fydd yn llywio strategaethau, ymgyrchoedd creadigol, hysbysebion, cynnwys, recriwtio a mwy, gan roi adborth diduedd i chi, a'ch galluogi i fesur ymatebion posibl i'ch gwaith.

The image shows the feet of several people standing on a road decorated with a rainbow flag.

PRAWF STRAEN CYNHWYSIANT

Ydych chi eisiau gwybod pa mor gynhwysol yw eich gwaith yn barod? Gan dynnu ar arbenigedd cyfathrebu a phrofiad bywyd The Real Folk Panel, gallwn archwilio eich allbwn creadigol a chyfathrebu presennol i weld beth rydych chi'n ei wneud yn awr, a sut y gallai fod yn well. Mae'r broses hon yn darparu argymhellion adeiladol sy'n seiliedig ar ddatrysiadau a fydd yn gwneud i'ch gwaith adleisio'n ehangach yn y dyfodol.

The image is of a young man talking to a group of people.

GWEITHDAI UNIGRYW

Ochr yn ochr â The Real Folk Panel, rydym yn rhedeg gweithdai sy’n eich helpu chi i fynd i’r afael â chynhwysiant, gan edrych ar yr heriau penodol rydych chi’n eu hwynebu fel busnes, bylchau yn eich gwybodaeth a chyfleoedd coll yn eich gwaith marchnata. Mae ein sesiynau’n nodi ac yn mynd i’r afael â phopeth o ragfarnau i gamddealltwriaethau diwylliannol er mwyn grymuso eich tîm, gan sicrhau fod eich gwaith yn fwy cynhwysol yn y pen draw.

CYNLLUNIO DIOGEL AT Y DYFODOL

Nid yw symboleiddiaeth yn ddigon da ym maes cynhwysiant mwyach. Rydym ni’n helpu busnesau i greu strategaethau cynhwysiant dilys y gellir eu hymgorffori ar lefel sefydliadol a chyfathrebu. Bydd hynny’n eich galluogi chi i osgoi ymgyrchoedd neu fentrau unigol sydd efallai’n ticio blychau penodol, ond nid ydynt yn cyflawni cynhwysiant hirdymor.

Cymraeg