Maniffesto Folk

Yn Folk, rydym yn ymladd y frwydr dda.
Rydym ni’n helpu brandiau i wneud yn well ac yn herio ein hunain i wneud hynny hefyd.
Dyma beth sy’n gwneud i ni godi o’n gwelyau yn y bore, ond gwyddom fod mwy i’w wneud o hyd.
Gyda hynny mewn cof, dyma ein cenhadaeth.

UN. Mae amser yn werthfawr, a dyna’r rheswm rydym ni’n neilltuo ein hamser ni i fentora pobl o gefndiroedd amrywiol sy’n gweithio ym maes cyfathrebu. Rydym ni’n ymrwymo i neilltuo un mis o amser yr asiantaeth bob blwyddyn at y diben hwn.

DAU. Bob blwyddyn, byddwn yn creu mynediad dirwystr i’r ysgol yrfaol trwy gynnig o leiaf un lleoliad gwaith i unigolyn ifanc sy’n defnyddio cadair olwyn.

TRI. Mae arwain yn ffordd yn llawer gwell na gwneud elw. Felly, rydym yn ymrwymo i roi arian ac amser ymgynghori i’n helusen o ddewis er mwyn cefnogi pobl anabl i ddechrau gweithio yn y byd creadigol.

PEDWAR. Rydym ni’n ymrwymo i gynnig gostyngiad ariannol i gleientiaid sydd â bwrdd amrywiol. Bargen dda i bawb.

PUM. Ymgyrchoedd cynhwysol yw ein bara menyn, felly byddwn yn sicrhau bod o leiaf 50% o’r dalent allanol a argymhellir ar gyfer ymgyrchoedd yn dod o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol (dylanwadwyr, arbenigwyr, talent, llefarwyr a gweithwyr llawrydd).

CHWECH. Rydym ni’n ymarfer yr hyn a bregethwn, ac felly byddwn yn cadw llygad barcud ar gynhwysiant ein diwylliant mewnol, gan weithio â phartneriaid allanol i wella amrywiaeth ein sefydliad ac i ymgysylltu ag unigolion creadigol o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol.

SAITH. Ac i gynnal ein gonestrwydd, byddwn yn cynhyrchu adroddiad blynyddol ar ein cynnydd.

Cymraeg