Ein Gwasanaethau
Ymgyrchoedd Creadigol
Ym myd cyfathrebu, mae cynnwys gyfwerth ag arian parod. Rydym ni’n gweithio gyda chleientiaid i gynhyrchu cynnwys pwrpasol wedi’i frandio, o ran ystyr ac effaith.
Cynhyrchu Cynnwys
Er mwyn cael sylw am y rhesymau cywir, mae angen i frandiau allu adrodd straeon cyfareddol. Boed yn blatfform, yn flwch sebon neu’n fegaffon, mae ein syniadau ni’n denu’r sylw y mae brandiau yn crefu.
Strategaeth
Cynhyrchu cynnwys creadigol o’r radd flaenaf yw hanner y gwaith. Rydym ni’n datblygu gwaith ein cleientiaid i’r eithaf, gyda strategaethau cynhwysfawr sy’n chwyddo llwyddiant pob ymgyrch.
Mewnwelediadau
Boed yn grwpiau ffocws, profi ymatebion cynulleidfaoedd i lwybrau creadigol neu’n fewnwelediadau cynhwysol gan grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol, mae The Real Folk Panel a’n llwyfan mewnwelediadau, The Real Folk Community, yn rhoi mewnwelediadau diduedd i chi, ar raddfa.
Cysylltiadau Dylanwadwyr
Rydym ni’n gweithio ar eich rhan i ganfod y dalent gywir, i gydweithio ar gynnwys ac i reoli eu mewnbwn trwy gydol prosiect, gan sicrhau cynrychiolaeth deg o dalent amrywiol.
Newsjacking
Mae ein dull gwaith cysylltiadau cyhoeddus yn sicrhau eich bod yn cael eich clywed drwy herwgipio penawdau a defnyddio materion cyfoes i wreiddio eich neges yn y mannau priodol. Bydd y chwyldro yn cael ei ddarlledu, ei drydar a’i dic-tocio, os oes gennym ni unrhyw beth i'w wneud ag ef.