Mae’r polisi preifatrwydd hwn yn nodi sut rydym yn defnyddio ac yn diogelu unrhyw wybodaeth a roddwch i ni pan fyddwch yn defnyddio’r wefan hon. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod eich preifatrwydd yn cael ei ddiogelu. Os byddwn yn gofyn i chi ddarparu gwybodaeth benodol wrth ddefnyddio’r wefan hon a fyddai’n gallu datgelu eich hunaniaeth, yna gallwch fod yn sicr mai dim ond yn unol â’r datganiad preifatrwydd hwn y caiff y wybodaeth ei defnyddio.
Efallai bydd The Folk Group yn newid y polisi hwn o bryd i’w gilydd trwy ddiweddaru’r dudalen hon. Dylech wirio’r dudalen hon yn achlysurol i sicrhau eich bod yn hapus gydag unrhyw newidiadau. Mae’r polisi hwn yn weithredol o 14/05/2018.
Data personol
Mae’r holl ddata personol yn cael ei storio’n ddiogel yn unol â Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol yr UE (Rheoliad (UE) 2016/679) (GDPR).
O dan Reoliad Diogelu Data Cyffredinol yr UE (GDPR), diffinnir data personol fel:
“unrhyw wybodaeth yn ymwneud â pherson naturiol adnabyddedig neu adnabyddadwy ('testun data'); person naturiol adnabyddadwy yw un y gellir ei adnabod, yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, yn benodol trwy gyfeirio at ddynodwr fel enw, rhif adnabod unigol, data lleoliad, dynodwr ar-lein neu i un neu fwy o ffactorau penodol i hunaniaeth gorfforol, ffisiolegol, genetig, meddyliol, economaidd, diwylliannol neu gymdeithasol y person naturiol hwnnw”.
Gyda’ch caniatâd a / neu lle caniateir hynny gan y gyfraith, efallai y byddwn yn defnyddio’ch data at ddibenion marchnata a allai gynnwys cysylltu â chi drwy neges e-bost a’r post gyda gwybodaeth, newyddion a chynigion am ein cynnyrch a’n gwasanaethau. Fodd bynnag, ni fyddwn yn anfon unrhyw ddeunydd marchnata digymell neu sbam, a byddwn yn cymryd pob cam rhesymol i sicrhau ein bod yn diogelu eich hawliau yn llawn ac yn cydymffurfio â'n rhwymedigaethau o dan y GDPR a Rheoliadau Preifatrwydd a Chyfathrebu Electronig (Cyfarwyddeb y CE) 2003, fel y'u diwygiwyd yn 2004, 2011 a 2015.
Yr hyn rydym ni’n ei gasglu
Fe allwn ni gasglu’r wybodaeth ganlynol:
- Enw a theitl swydd
- Gwybodaeth cysylltu, gan gynnwys cyfeiriad e-bost
- Gwybodaeth ddemograffig, e.e. cod post, hoffterau a diddordebau
- Gwybodaeth arall sy’n berthnasol i arolygon cwsmeriaid a / neu gynigion
Yr hyn rydym ni’n ei wneud gyda’r wybodaeth rydym ni’n ei gasglu
Mae angen y wybodaeth hon arnom i ddeall eich anghenion a darparu gwell gwasanaeth i chi, ac yn arbennig am y rhesymau canlynol:
- Cadw cofnodion mewnol.
- Efallai y byddwn yn defnyddio’r wybodaeth i wella ein cynnyrch a’n gwasanaethau.
- Efallai, o bryd i’w gilydd, byddwn yn anfon negeseuon e-bost sy’n hyrwyddo cynnyrch newydd, cynigion arbennig neu wybodaeth arall y credwn sydd o ddiddordeb i chi, gan ddefnyddio’r cyfeiriad e-bost rydych chi wedi’i ddarparu.
- O bryd i’w gilydd, efallai y byddwn yn defnyddio’ch gwybodaeth i gysylltu â chi at ddiben ymchwil marchnata. Efallai y byddwn yn cysylltu â chi drwy neges e-bost, dros y ffôn neu trwy’r post.
Diogelwch
Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod eich gwybodaeth yn ddiogel. Er mwyn atal mynediad neu ddatgeliad anawdurdodedig, rydym wedi rhoi gweithdrefnau corfforol, electronig a rheolaethol addas ar waith i warchod ac i ddiogelu'r wybodaeth a gasglwn ar-lein.
Dolenni i wefannau eraill
Gall ein gwefan gynnwys dolenni i wefannau eraill o ddiddordeb. Fodd bynnag, unwaith y byddwch wedi clicio ar y dolenni hyn i adael ein gwefan, dylech nodi nad oes gennym unrhyw reolaeth dros y wefan arall honno. Felly, ni allwn fod yn gyfrifol am ddiogelwch a phreifatrwydd unrhyw wybodaeth a ddarperir gennych wrth ymweld â gwefannau o’r fath ac nid yw gwefannau o’r fath yn cael eu llywodraethu gan y datganiad preifatrwydd hwn. Dylech fod yn ofalus ac edrych ar y datganiad preifatrwydd sy’n berthnasol i’r wefan dan sylw.
Rheoli eich gwybodaeth bersonol
Efallai y byddwch yn dewis cyfyngu ar gasglu neu ddefnydd eich gwybodaeth bersonol yn y ffyrdd canlynol:
- Pryd bynnag y gofynnir i chi lenwi ffurflen ar y wefan, chwiliwch am y blwch y gallwch ei glicio i nodi nad ydych am i'r wybodaeth gael ei defnyddio gan unrhyw un at ddibenion marchnata uniongyrchol.
- Os ydych wedi cydsynio yn flaenorol i ni ddefnyddio eich gwybodaeth bersonol at ddibenion marchnata uniongyrchol, gallwch newid eich meddwl unrhyw bryd drwy anfon neges e-bost at sharon.flaherty@thefolkgroup.co.uk
Ni fyddwn yn gwerthu, dosbarthu neu brydlesu eich gwybodaeth bersonol i drydydd partïon, oni bai bod gennym eich caniatâd neu ei bod yn ofynnol yn ôl y gyfraith i wneud hynny. Mae’n bosibl y byddwn yn defnyddio’ch gwybodaeth bersonol i anfon gwybodaeth hyrwyddo atoch am drydydd partïon y credwn y gallai fod o ddiddordeb i chi os byddwch yn dweud wrthym eich bod yn dymuno i hyn ddigwydd.
Mae gennych yr hawl cyfreithiol i ofyn am gopi o unrhyw ddata personol a gedwir gennym ni amdanoch chi (lle cedwir y fath ddata). Cysylltwch â ni i gael mwy o wybodaeth ar sharon.flaherty@thefolkgroup.com neu ysgrifennwch at y Swyddog Diogelu Data, The Folk Group, 27 Stryd Fawr, Llandaf, Caerdydd, CF5 2DY. Nodwch eich enw, cyfeiriad a rhif ffôn symudol. Byddem yn ddiolchgar petaech hefyd yn gallu darparu manylion cryno o ba wybodaeth yr hoffech gopi ohono (bydd hynny’n ein helpu ni i ddod o hyd i’ch data yn haws). Byddwn yn cymryd pob cam rhesymol i gadarnhau eich hunaniaeth cyn darparu manylion unrhyw wybodaeth bersonol rydym yn ei gadw amdanoch chi.
Os ydych chi’n credu bod unrhyw wybodaeth yr ydym ni’n ei gadw amdanoch chi yn anghywir neu’n anghyflawn, cysylltwch â ni cyn gynted ag y bo modd ar y cyfeiriad uchod. Byddwn yn cywiro unrhyw wybodaeth anghywir yn brydlon.
Newidiadau i’n Polisi Preifatrwydd
Mae’n bosibl y byddwn yn newid y Polisi Preifatrwydd yn ôl yr angen, neu yn ôl y gyfraith. Bydd unrhyw newidiadau yn cael eu cyhoeddi ar unwaith ar ein gwefan (Our Site), a byddwch yn derbyn telerau’r Polisi Preifatrwydd newydd y tro cyntaf y byddwch yn defnyddio’r wefan (Our Site) yn dilyn y newidiadau. Bydd unrhyw newidiadau i’r Polisi Preifatrwydd hwn yn weithredol o’r diwrnod y cânt eu postio. Argymhellwn eich bod chi’n gwirio’r dudalen hon yn rheolaidd.