Cynrychiolaeth ar ganol y llwyfan: ein partneriaeth newydd gyda Chwmni Theatr Hijinx

Ysgrifennwyd gan Tilda Howard

1st Chwefror 2023

Mae’r hyn a ddechreuodd fel gwahoddiad i addysgu tîm Folk am sut i gael mwy o bobl ag anableddau ar y sgrin wedi troi’n berthynas swyddogol rhwng Folk a Hijinx.

Heddiw, rydym yn falch o gyhoeddi ein bod wedi partneru â chwmni theatr cynhwysol blaenllaw Hijinx, i ddod â mwy o amrywiaeth i'r diwydiant marchnata a chyfathrebu.

Trwy greu cyfleoedd i actorion ag anableddau dysgu a / neu awtistiaeth mewn cynyrchiadau theatr a ffilm, mae Hijinx a Folk yn gobeithio gwrthdroi disgwyliadau a herio canfyddiadau pobl am anableddau dysgu.

Bydd ein nawdd ariannol yn mynd tuag at gefnogi gwaith dydd-i-ddydd Hijinx, sy'n darparu hyfforddiant perfformio proffesiynol i actorion ag anableddau dysgu a / neu awtistiaeth, gan eu cefnogi i gael mynediad at swyddi ym myd theatr a ffilm.

Dywedodd Sharon Flaherty, Prif Swyddog Gweithredol Folk: "Ein cenhadaeth yw sicrhau bod pobl o bob cefndir yn cael eu clywed, eu cynrychioli, eu gwerthfawrogi a'u grymuso. Bydd y bartneriaeth hon gyda Theatr Hijinx yn ein helpu i barhau i wella amlygrwydd grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol ar y sgrin, a fydd yn cynnal y momentwm o ran normaleiddio gwahaniaethau a phwysleisio’r neges am bwysigrwydd cynrychiolaeth i bawb ym maes marchnata, cysylltiadau cyhoeddus a hysbysebu."

Mae Hijinx yn rhedeg pum Academi hyfforddi amrywiol sy'n darparu hyfforddiant perfformio proffesiynol i 70 o actorion talentog ag awtistiaeth ac anableddau dysgu eraill, gan roi cyfle iddynt i ddatblygu'r sgiliau sydd eu hangen arnynt i fod yn berfformwyr proffesiynol.

Ychwanegodd Sarah Horner, Prif Swyddog Gweithredol Hijinx: “Trwy gydweithio, mae gan Hijinx a Folk gyfle unigryw i lywio gwaith ei gilydd, gan feithrin dealltwriaeth a sbarduno newid go iawn yn y diwydiant hysbysebu a marchnata, gan sicrhau bod cynrychiolaeth i bobl ag anableddau dysgu a / neu awtistiaeth yn ddilys, a bod lleisiau’n cael eu mwyhau a’u clywed."

Mae cynyrchiadau clodfawr Hijinx yn cynnwys Meet Fred, Into the Light a Metamorphosis, sydd wedi cael eu perfformio mewn dros 35 o wledydd yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae actorion y cwmni wedi ymddangos yng nghyfres Casualty ar y BBC, cynyrchiadau Severn Screen i S4C a chyfres olaf Craith / Hidden BBC Cymru. 

Mwy

Cymraeg