Admiral
Datgelu cost Covid er mwyn bachu'r rheiny sy'n mynd ar eu gwyliau
Yr Her
Roedd rheolau a rheoliadau Covid o ran teithio yn newid mor gyflym â'r canllawiau profi eu hun. Nid oedd mynd ar wyliau erioed wedi bod yn fwy cymhleth, ond roedd y cwmni yswiriant, Admiral, eisiau dod i'r adwy er mwyn symleiddio'r wybodaeth a phrofi mai nhw yw'r cwmni gorau ar gyfer pob peth cysylltiedig â theithio.
Ein Hymateb
Does neb yn hoffi costau annisgwyl yn tarfu ar eu gwyliau, ac eto, yn ystod y pandemig, roedd maes profi PCR yn ymdebygu i'r Gorllewin Gwyllt. Ond beth oedd y gwir gost o brofi am Covid i'r rheiny oedd yn mynd ar wyliau?
Gwyddom fod hwn yn gwestiwn y byddai’r cyhoedd yn talu sylw iddo. A phwy well i roi atebion nag Admiral?
Fe wnaethom goladu ymchwil ar y pris cyfartalog fesul cyrchfan, a fyddai, ar ei uchaf, yn gyfystyr â £184 y pen, fesul trip. Creodd y wybodaeth amhrisiadwy hon gymhariaeth syml i deithwyr dryslyd, gan ein galluogi i osod prif yswiriwr y DU yng nghanol y gwylltineb dyrys.
Sicrhaodd y neges syml hon mai Admiral oedd llais awdurdod y sefyllfa, gan sicrhau sylw i'r ymgyrch dros 78 o dudalennau mewn cyhoeddiadau amrywiol, gan gynnwys yr Evening Standard, The Telegraph, Daily Express, MSN UK ac Yahoo News, gyda 27 dolen yn cysylltu'n ôl at y cwmni, gan gefnogi ymwybyddiaeth brand ar gyfer cynhyrchion yswiriant teithio Admiral.