Loop
Manteisio ar y newyddion am yr argyfwng ynni i helpu aelwydydd i arbed arian
Yr Her
Mae Loop yn ap clyfar rhad ac am ddim gyda'r potensial i helpu pobl i arbed arian yn ystod yr argyfwng ynni, ond gyda brandiau mawr yn dominyddu'r penawdau, ni allai Loop gyrraedd y cwsmeriaid mwyaf anghenus. Roedd eisiau strategaeth arnynt i hyrwyddo eu hagwedd amgen at ynni, i ymateb i ymwybyddiaeth gynyddol y cyhoedd a bachu defnyddwyr newydd.
Ein Hymateb
Gyda chymaint o gystadleuwyr pwerus yn mynnu sylw ym maes ynni, ein her oedd sicrhau bod Loop yn cael ei glywed uwchben yr holl sŵn. Ond roeddem ni'n gwybod, er mwyn torri drwodd, nid oedd yn rhaid i Loop fod y llais cryfaf yn yr ystafell, dim ond y llais craffaf. Yr her arall oedd cyllideb gymedrol a olygai nad oedd modd creu cynnwys newydd. Fodd bynnag, arweiniodd y cyfyngiadau hyn at ddull ystwyth a welodd Loop yn denu sylw.
Yn gyntaf, craffwyd ar ddata Loop, gan ddod o hyd i straeon unigryw o fewn cyfrifiadau ac ystadegau defnydd y cwmni a fyddai'n taro tant pan fyddai'r amser yn dod. Yna, gan gadw llygad barcud ar y newyddion, buom yn monitro'r ymgom ynni sy'n datblygu i nodi cyfleoedd perffaith i Loop ymuno â'r sgwrs, a'r cyfan trwy ddefnyddio cynnwys oedd eisoes yn bodoli.
Roedd y strategaeth ymatebol iawn hon yn caniatáu i Loop gymryd mantais o'r newyddion oedd yn cael ei adrodd. O gyhoeddiadau capio prisiau i erthyglau nodwedd yn ymwneud â chyngor ar arbed ynni, fe wnaethom ddarparu’r mewnwelediadau a'r sylwebaeth amserol oedd eu hangen ar y newyddiadurwyr oedd yn ymdrin â’r pwnc, gan wneud enw a chynnwys Loop yn fwy adnabyddus yn y broses, ac arwain at lawer o sylw yn y cyfryngau, o'r BBC i ThisisMoney.