FairFX
Nodi ymateb cynulleidfaoedd 'hŷn' gan ddefnyddio The Real Folk Panel
Yr Her
Roedd y cwmni cardiau teithio rhagdaledig FairFX i fod i lansio ymgyrch o'r enw 'Silvermoon', yn targedu pobl sydd wedi ymddeol ac sydd ar fin cychwyn ar eu hantur gyntaf ers dechrau'r cyfnod newydd hwn o fywyd. Oherwydd enw arfaethedig yr ymgyrch, roedden nhw eisiau ail farn i atal unrhyw arwyddocâd negyddol rhag peri tramgwydd cyn iddynt symud ymlaen.
Ein Hymateb
Yn ffodus i FairFX, roedd gennym ni The Real Folk Panel, panel amrywiol o arbenigwyr cyfathrebu annibynnol, yn barod i nodi unrhyw faneri coch posibl a gwneud yn siŵr bod yr holl iaith yn gadarnhaol o ran oedran, gyda chefnogaeth Age Cymru (cangen Cymru o Age UK) – elusen flaenllaw sy’n ymroddedig i bobl hŷn.
Rhannodd y panel fewnwelediad i'r gair 'silver' a'i arwyddocâd, gan ddod i'r casgliad ei fod yn edrych ar oedran mewn ffordd gadarnhaol, heb gyfleu unrhyw ystrydebau negyddol neu niweidiol. Ar ben hynny, roedden nhw'n teimlo bod yr enw'n creu term newydd teilwng am gyfnod sy'n cael ei anwybyddu cymaint.
"Nid yw enwau fel 'pobl hŷn' neu 'oedolion hŷn' yn boblogaidd ymhlith pobl sydd wedi ymddeol, a allai fod yn unrhyw un o blith pobl yn eu 50au, 60au neu hyd yn oed 70au y dyddiau hyn. Felly, ar ôl pwyso a mesur, mae Silvermoon yn ffordd dda o ddisgrifio gwyliau bythgofiadwy i’r rheini sydd wedi ymddeol, beth bynnag fo’u hoedran, meddai un aelod o’r panel.”