Principality
Adeiladu neges brand effeithiol ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol
Yr Her
Mae oedolion ifanc yn dyheu am le y gallant deimlo eu bod yn cael eu derbyn, beth bynnag fo'u cefndir, dewisiadau, ffordd o fyw neu iechyd ariannol - yn enwedig yng nghyd-destun banciau. Fel cymdeithas adeiladu sy’n cael ei phweru gan ei haelodau, i’w haelodau, mae’r Principality yn deall anghenion a heriau person ifanc sydd eisiau camu arno i'r ysgol eiddo, felly sut y gallem roi gwybod i fwy o’r ddemograffeg?
Ein Hymateb
Roedd y Principality eisiau sefydlu ei hun fel llwyfan cynhwysol a chroesawgar i bawb. Rhywle y gallwch gynilo, heb gael eich barnu am eich dewisiadau bywyd os na wnewch hynny. Gan rannu’r ethos hwn gyda'r gynulleidfa darged, dechreuodd ymgyrch ‘Croeso Adref’ ATL, gan gysylltu’n ôl ag is-bennawd eu brand, sef ‘Lle Mae Cartref yn Bwysig’.
Er mwyn gweithredu'r ymgyrch, creodd Folk strategaeth cyfryngau cymdeithasol uchelgeisiol a osododd y neges yn uniongyrchol yn llwybr pobl rhwng 18 a 34 oed, gan fwyhau ei effaith tu hwnt i leoliadau cyfryngau traddodiadol.
I sicrhau bod ein neges yn taro tant go iawn, fe gynhaliwyd gwaith ymchwil ar arferion llwyfan y gynulleidfa darged, yn ogystal â'r cynnwys oedd yn taro deuddeg gyda nhw. Yn ogystal â datgelu’r sianelau mwyaf perthnasol ar gyfer eu cyrraedd, fe ddysgom ni fod gan Gymry ifanc hunaniaeth genedlaethol gref, sy’n ymfalchïo fwyfwy yn yr iaith Gymraeg. Ar gyfer ymgyrch sy'n ffocysu ar groesawu pobl adref, daeth hwn yn fanylyn pwysig a oedd yn sail i’n dull gweithredu.
Cynlluniwyd ein hymgyrch cyfryngau cymdeithasol dwyieithog 'Croeso Adref' ar y cyd â llais Cymraeg gweithgar o fewn y gymuned ar-lein. Bu ein dylanwadwyr yn trafod arian trwy gynnwys gwreiddiol difyr wrth i ni gyflwyno'r brif ymgyrch mewn fformatau a oedd yn teimlo'n fwy naturiol i ddefnyddwyr ifanc. Gyda'n gilydd, pwysleisiwyd addewid y Principality o fod yn lle a fydd yn gofalu amdanoch, gan groesawu cynulleidfa newydd i ymgartrefu gyda'r gymdeithas adeiladu.