Gyrfaoedd

Rydym ni’n dathlu, hyrwyddo a brwydro ar ran pawb. Os ydych chi’n gwneud hynny hefyd, mae Folk eisiau clywed gennych. Dyma’r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch ynghylch gweithio i Folk.

Dyma'r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch am yrfaoedd yn Folk

Mae ein tîm medrus yn mynd i’r afael â heriau cyfathrebu gan weithredu meddylfryd ar y cyd, gan drawsnewid syniadau creadigol yn ganlyniadau go iawn.

Rydym ni’n credu yn y gwaith rydym ni’n ei gynhyrchu ac yn grymuso pob aelod o’r tîm i arwain y ffordd ac i adael ei farc.

Ni fyddai unrhyw fusnes blaengar yn llwyddo heb esblygu a dysgu. Rydym yn sicrhau bod sgiliau ein tîm yn gyfredol, yn buddsoddi mewn hyfforddiant ac yn chwilio am wybodaeth newydd bob amser.

Ni ddylai datblygiad proffesiynol fod yn ddewisol. Rydym yn cynnig adborth i helpu ein gweithwyr i wneud eu gwaith gorau trwy gyfarfodydd byr wythnosol, cyfarfodydd wyneb yn wyneb misol ac adolygiadau ddwywaith y flwyddyn.

Nid ‘Nhw yn erbyn Ni’ yw ein harddull. Boed yn gweithio swydd uwch neu iau, mae ein tîm cyfan yn deall hunaniaeth busnes Folk i’r dim, sut mae modd iddynt gyfrannau at ein cynnydd masnachol, a’r gwobrau sydd ar gael pan gyrhaeddwn ein targedau.

Rydym yn siarad heb flewyn ar dafod, ond mae parch wrth wraidd popeth rydym ni’n ei wneud. Nid ydym yn neilltuo unrhyw un wrth wneud ein gwaith.

Gwyddom fod talent ardderchog ac ymrwymiadau teuluol yn gallu cydfodoli. A dyna pam rydym ni eisiau i’n gweithwyr gael popeth – gyrfa lwyddiannus a hyblygrwydd o ran bywyd teulu.

Ydych chi’n edrych am fwy? Dewch o hyd iddo fan hyn.

Amgylchedd gweithio hynod hyblyg.

Ymddiriedaeth yn eich ymreolaeth a chyfrifoldeb go iawn.

Cefnogaeth i gamu tu hwnt i’ch cylch cysur a chyrraedd eich nodau.

Dysgu bob dydd gyda chyllideb hyfforddi hael.

Byddwch chi’n ennill pan fydd y busnes yn ennill – gyda gwobrau o docynnau cyngerdd i benwythnosau i ffwrdd pan fyddwn yn cyflawni targedau twf.

Mae’r mân fanteision yn cynnwys bonysau ariannol, diwrnod o wyliau pan fyddwch yn dathlu eich cylchwyl gwaith, digwyddiadau cymdeithasol, aelodaeth ddiwydiannol, sesiynau ymarfer a mwy.

Gwnewch y byd yn lle gwell i bawb trwy ddod i weithio i asiantaeth wirioneddol dosturiol.

Account Executive | Swyddog Gweithredol Cyfrif

Type: Full-time
Length: Permanent
Location: Cardiff | Caerdydd
Salary: Up to £24k
Hours: 39.5

The role The UK’s best creative content agency is looking for an ambitious account executive to join our tightly integrated, highly successful team in Cardiff. The ideal person will have at least 2 year’s experience delivering creative, integrated campaigns with excellent results, and is keen to take the next step in their career. We’re looking…

READ MORE

Senior Account Manager | Uwch Reolwr Cyfrif

Type: Full-time
Length: Permanent
Location: Cardiff | Caerdydd
Salary: Up to £40k
Hours: 39.5

The role The UK’s best creative content agency is looking for senior account manager, to join our tightly integrated, highly successful team in Cardiff. We need an ambitious, passionate and fearlessly creative individual with exceptional experience working across all media (print, online, broadcast and social), creating award-winning, integrated work. Working with the agency’s biggest clients…

READ MORE
Cymraeg