
Rydym ni’n newid y byd er gwell.
Yn Folk, rydym yn creu cyfathrebiadau ystyrlon sy'n hwyluso newidiadau blaengar, ac yn helpu brandiau i lwyddo.
O fewnwelediadau, strategaethau ac ymgyrchoedd creadigol llawn, i wasanaethau swyddfa'r wasg pwerus, fel newsjacking, cynhyrchu cynnwys a rheoli dylanwadwyr, mae popeth a wnawn wedi'i danategu gan angerdd i gynhyrchu cyfathrebiadau cynhwysol sy'n gwneud i bobl deimlo eu bod yn cael eu cynrychioli, eu gwerthfawrogi a'u grymuso.


Mae cynhwysiant yn ganolog i bob brand bellach.
Achos mae pob llais yn bwysig.
Dyna pam y creom ni The Real Folk Panel – casgliad o ymgynghorwyr profiadol o gefndiroedd amrywiol, a fydd yn eich galluogi chi i ymgysylltu ag unigolion a chymunedau sy’n cael eu hanwybyddu’n rhy aml.
Erbyn hyn, mae gan frandiau sy’n dangos dealltwriaeth wirioneddol o bwysigrwydd cynrychiolaeth a chynhwysiant y pŵer i gyflwyno syniadau mwy effeithiol - i gysylltu â’u cynulleidfaoedd ar lefel llawer dyfnach. Ond a yw’r sector cyfathrebu’n cynrychioli’r byd go iawn yn deg ar hyn o bryd? Ddim o bell ffordd. Mae angen newid hynny.
Boed yn cynnal archwiliad wedi’i deilwra o’ch gwaith presennol er mwyn asesu ei gynwysoldeb, neu roi mynediad i chi i gymunedau anodd eu cyrraedd sy’n cael eu tynnu ynghyd gan grefydd, ethnigrwydd, rhywedd, hunaniaeth rywiol, anabledd, safle economaidd-gymdeithasol ac oed, mae gan The Real Folk Panel y pŵer i drawsnewid eich dull cyfathrebu tymor hir.
Ydych chi eisiau mynediad at leisiau amrywiol?